
Nid oes llawer o bobl wedi clywed am Jimmy Murphy, i ddweud y gwir mi oeddwn i yn un o’r bobl yna cyn sgwrs mewn tafarn lleol, ond oedd y stori o’r dyn arwrol yn un oedd wedi fy rhyfeddu a yn fy marn i dylid pob cefnogwr pêl-droed wedi clywed am ei stori.
Ganwyd Jimmy Murphy yn ardal y Rhondda ar Awst yr 8fed, 1910 ac yn 1928 fe arwyddodd gyda West Bromwich Albion fel chwaraewr pêl-droed proffesiynol pan yn 17 mlwydd oed. Chwaraeodd drost 200 o gemau i’r clwb ag fe gafodd ei gap gyntaf i Gymru pumtheg o weithiau. Nid oedd yn un am daro y penawdau yn ei yrfa proffesiynol ond yn ei yrfa fel hyfforddwr a rheolwr ydi’r rheswm pan rwyf yn credu dylia ei hanes cael ei adrodd unwaith eto.
Yng nghanol yr Ail Ryfel Byd, cafodd araith gan Murphy i filwyr am bêl-droed ei fynychu gan Sir Matt Busby, cafodd yr araith argraff ar Busby ac pan gafodd Busby ei benodi fel rheolwr Manchester United, fe gafodd Murphy ei benodi fel hyfforddwr yn 1946. Yn 1955 fe caofdd Murphy ei benodi fel rheolwr cynorthwyol dros Manchester United ar ol iddo arwain y clwb i’w trydydd Cwpan Ieuenctid F.A. yn olynnol. Cyfrioldeb Murphy oedd hyfforddi y chwaraewyr ifanc yn y clwb, fe aeth y chwaraewyr o dan oruchwyliaeth Murphy ymlaen i’w cael ei adnabod fel y ‘Busby Babes’. Cyn hyn fe roedd y timau mawr yn prynnu chwaraewyr yn lle ei datblygu, ond fe roedd Busby yn ymddired yn system ieuenctid y clwb. Tra yn ei swydd fel rheolwr cynorthwyol Manchester United, penodwyd Murphy yn reolwr dros Gymru yn 1956 gyda’r targed o gyrraedd Cwpan y Byd yn 1958. Gyda Manchester United yn ennill y gynghrair yn 1956-57, fe aeth Murphy ymlaen gyda Cymru i drio ennill lle yng Nghwpan y Byd. Cafodd Gymru eu rhoi mewn grŵp gystadleuol gyda Dwyrain Yr Almaen ac Siecoslofacia, gorffennodd Cymru yn ail yn y grŵp ac fe oedd hi’n edrych fel bod eu gobeithio i gyrraedd Cwpan y Byd wedi dod i ben.
Yn lwcus i Gymru, fe oedd Israel wedi cyrraedd y rownd ddiwethaf o’r gemau cymwys gyda pob un o ei gwrthwynebwyr yn gwrthod i’w chwarae oherwydd amryw o resymau gwleidyddol. Dywedodd FIFA na ddylid unryw wlad gyrraedd y gystadleuaeth oni bai am Sweden (yr wlad ble oedd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal) ac Gorllewin yr Almaen (yr enillwyr o 1954) heb chwarae gêm. Felly fe gafodd Gwlad Belg y cyfle i chwarae Israel ond eto fe wrthododd nhw y cyfle ag fe ddisgynnodd y cyfle i Gymru mewn gêm dwy gymal i weld pwy oedd yn mynd i Gwpan y Byd 1958. Fe ennillodd Cymru y ddwy gêm o ddwy gol i ddim ond yr ail gêm fydd yr un fwyaf adnabyddus yng nghyrfa Jimmy Murphy. Fe chwaraeodd Cymru yn erbyn Israel ar Chwefror 5ed, 1958, ar yr un noson fe oedd Manchester United yn chwarae yn rownd go-gyn derfynol yng Nghwpan Ewrop draw yn Red Star Belgrade. Fe benderfynnodd Murphy cymryd gofal dros gêm Cymru, tra ar y ffordd yn ôl o Belgrade, fe stopiodd awyren a oedd yn cario carfan Manchester United yn Munich. Tra yn trio ail-gychwyn fe gafodd yr awyren ddamwain erchyll lle bu farw 23 o bobl a oedd yn cynnwys 8 chwaraewr Manchester United a tri aelod o staff, cafodd y ddamwain ei adnabod fel ‘Trychineb Awyr Munich’. Fe aeth Murphy i Munich ychydig ddyddiau ar ôl y trychineb i geisio ddod i delerau gyda be ddigwyddodd i’w ffrindiau.
Gyda Sir Matt Busby yn gwella o’i anafiadau yn yr ysbyty, fe gymerodd Murphy gofal o garfan Manchester United am weddill y tymor, hyd yn oed gyda y carfan wedi cael ei ddinistrio ar ôl be ddigwyddodd yn Munich, fe arweiniodd Murphy y clwb i rownd derfynol Cwpan F.A. yn erbyn Bolton Wanderers, yn anffodus colli i ddwy gôl gan Nat Lofthouse oedd ei hanes ond fe roedd y gamp o gyrraedd y rownd derfynol yn un arwrol o ystyried yr obligiadau.
Ar ôl iddo gymeryd gofal o Manchester United am weddill y tymor, fe aeth Murphy ymlaen i Sweden i arwain ei wlad yng Nghwpan y Byd. Yn y gystadleuaeth, fe gafodd Cymru ei roi mewn grŵp hefo Hwngari, Mexico a Sweden, gyda tair gêm gyfartal, fe aeth Cymru fewn i gêm ail gyfle gyda Hwngari i weld pwy oedd yn mynd i’r rownd nesaf i chwarae yn erbyn Brasil. Fe ennillodd Cymru y gêm o ddwy gôl i un ar ol i Ivor Allchurch a Terry Medwin rwydo iddynt. Fe aeth Cymru o dan oruchwyliaeth Murphy i’r rownd go-gyn derfynol, yn anffodus fe gollwyd y gêm un i ddim ar ôl i Pele rwydo i Brasil, fe aeth Brasil ymlaen i ennill Cwpan y Byd ar ôl iddynt drechu Cymru.
Ar ôl i Sir Matt Busby wella o’i anafiadau o’r ddamwain yn Munich, fe aeth Murphy yn ôl i’w swydd fel rheolwr cynorthwyol tra dal yn rheolwr ar Gymru. Fe wrthododd gynnigon gan rhai o’r gewri y byd pêl-droed (Brasil, Juventus ac Arsenal) i ddod yn reolwr arnynt. Roedd Murphy wrth ei fodd yn gweithio yn y cefndir ag yn datblygu yr ieuenctid ac yn helpu nhw ddod yn chwaraewyr i’r tîm cyntaf. Nid oedd gan Murphy obeithion o ddod y prif ddyn yn y ‘dugout’. Fe arosodd Murphy yn reolwr ar Gymru tan 1964, fe fethodd i arwain Cymru i Gwpan y Byd yn 1962 ond hyd heddiw, Murphy yw’r unig ddyn i reoli Cymru yng Nghwpan y Byd . Yn 1968, ddeg mlynedd ar ôl y trychineb yn Munich, fe gyflawnodd Murphy a Busby eu breuddwyd o ennill Cwpan Ewrop ar iddynt drechu Benfica yn y rownd derfynol, roedd nifer o bobl yn credu buasai y clwb wedi ennill y tlws flynyddoedd ynghynt os nad oedd ei carfan wedi cael ei dinistrio a wedi colli chwaraewyr fel Duncan Edwards yn Munich. Fe arosodd Murphy fel rheolwr cynorthwyol yn Manchester United yn 1971.
Yn 1973 fe ddaeth Murphy yn sgowt i Manchester United tra oedd Tommy Docherty yn reolwr ar y clwb, o annogaeth gan Murphy fe arwyddodd y clwb Steve Coppell ac Gordon Hill, rhyngddynt fe chwaraeodd y ddau dros 400 o gemau i’r clwb. Bu farw Jimmy Murphy yn Tachwedd, 1989, fel anrhydedd iddo fe gomisynwyd tlws ”Jimmy Murphy Young Player of the Year” oherwydd y gwaith iddo wneud gyda y timau ieuenctid tra yn Manchester United, tlws sydd wedi cael ei ennill gan chwaraewyr sydd yn cynnwys Ryan Giggs, Paul Scholes, Marcus Rashford ac Mason Greenwood. Yn Mawrth, 2009 fe gafodd plac glas ei osod ar y tŷ lle fagwyd Murphy yn Treharne Street, Pentre. Fe gafodd ei bortreadu gan Philip Madoc yn y ffilm ”Best” yn 2000 ag gan David Tennant yn y ffilm BBC ”United” yn 2011, ffilm sydd yn canolbwyntio ar y ”Busby Babes” ac y trychineb awyr yn Munich. Hyd heddiw, mae Jimmy Murphy yn cael ei gofio am yn Manchester United ac yn Gymru ond nid oes llawer o bobl yn gwybod ei stori anhygoel, y flwyddyn a gafodd yn 1958 ac ei bwysigrwydd yn hanes pêl-droed Cymru a Manchester United.