Cwis Pel-droed Cymru

Di ysgrifennu cwis am bel-droed yn Cymru sydd yn cynnwys, cwestiynnau am tim rhyngwladol Cymru ac hefyd am glybiau yn Cymru. Cymrwch go arni os dachi ffansi. Nai bostio yr atebion fory, Diolch!

  1. Pan drechodd Cymru, Gwlad Belg o 3-1 ym Mencampwriaethau Ewrop yn 2016, pwy sgoriodd y gol i Wlad Belg?
  2. Arwyddodd John Charles i Juventus yn Awst, 1957 am ffi ar y pryd oedd yn record Prydeinig, faint dalodd Juventus amdano?
  3. Ar ol curo Dinas Caeredin yn rownd cyn-derfynol, Cwpan Her Yr Alban, pwy wnaeth Cei Connah wynebu yn y rownd derfynol yng nghystadleuaeth 2018-19?
  4. Enillodd Caernarfon Tlws y FAW yn nhymor 2012-13 wrth iddynt drechu Kilvey Fords yn y rownd derfynol a chwaraewyd yn Y Drenewydd, beth oedd y sgor yn y gem hon?
  5. Yn erbyn pa wlad oedd Cymru yn chwarae yn erbyn pan dorrodd Gareth Bale record goliau Ian Rush pan sgoriodd am y 29fed tro?
  6. I pa glwb mae Ethan Ampadu ar fenthyg i ar hyn o bryd?
  7. Pwy oedd y clwb diwethaf cyn Y Seintiau Newydd i ennill Uwch Gynghrair Cymru?
  8. Ar hyn o bryd mae clwb Tref Prestatyn ar frig JD Cymru North, ond yn pa flwyddyn enillodd y clwb Cwpan Cymru?
  9. Yn Mawrth 2019, fe chwaraeodd Cymru eu gem cyntaf yn Cae Ras, Wrecsam ers 2008, yn erbyn pwy chwaraeodd Cymru yn y gem hon?
  10. Pwy oedd y Cymro gyntaf i sgorio gol yn Stadiwm y Mileniwm ar ol iddo sgorio mewn gem gollodd Cymru yn erbyn Y Ffindir yn 2000?
  11. Airbus UK a pa glwb arall enillodd ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer tymor 2019/20?
  12. Pa dim tu allan i’r Uwch Gynghrair gyraeddodd rownd derfynol Cwpan y Gynghrair tymor yma wrth iddynt chwarae yn erbyn Cei Connah?
  13. Yn y gemau rhagbrofol i Bencampwriaethau Ewrop 2020, fe gafodd Kieffer Moore argraff sylweddol ar ymdrechion Cymru, i ba glwb mae’r ymsodwr yn chwarae i?
  14. Mewn gem hanesyddol i Gymru, trechwyd yr Eidal yn Stadiwm y Mileniwm gyda Craig Bellamy yn sgorio y gol fuddugol, ond pwy sgoriodd y gyntaf i Gymru cyn i Alessandro Del Piero ei gwneud hi yn gem gyfartal?
  15. Yn mha flwyddyn gafodd y gem ddiwethaf rhwng Caerdydd ag Abertawe ei chwarae ar Ninian Park?, fe orfennodd y gem yn gyfartal gyda sgor o 2-2.
  16. Fe chwaraeodd Wrecsam yn erbyn pwy yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle yng Nghynrair Cenedlaethol Vanarama yn 2013?
  17. Ynghyd a Cymru, fe wnaeth 4 gwlad arall eu ymddangosiad cyntaf yn Pencampwriaethau Ewrop yn 2016, Gogledd Iwerddon, Slovakia, Gwlad yr Ia a phwy oedd yr gwlad arall?
  18. Yn erbyn pwy sgoriodd Ben Woodburn ei gol rhyngwladol gyntaf?
  19. Pa glwb adawodd Paul Roberts pan arwyddodd i Wrecsam am £10,000 yn nhymor 1996-97?
  20. Arwyddodd cyn-reolwr Clwb Tref Caernarfon i CPD Bangor 1876 fel chwaraewr y tymor yma, enwch y dyn?
  21. Fe oedd Mark Hughes yn reolwr ar Gymru o 1999-2004, pa glwb uwch gynghrair Lloegr berswadiodd Hughes i adael Cymru i gymryd swydd y rheolwr hefo nhw?
  22. Pwy oedd rheolwr Cymru yng Nghwpan y Byd 1958 yn Sweden?
  23. Pa glwb o drydydd haen Loegr arwyddodd yr ymosdwr Adam Roscrow o Met Caerdydd yn Haf 2019?
  24. Pa glwb o’r canolbarth chwaraeodd yn Cwpan Intertoto yn 2002 pan fe gollodd nhw i Marek Dupnitsa o Belarws?
  25. Chris Gunter sydd yn dal y record ar ran capiau i Gymru, faint o gemau ma’r cefnwr wedi chwarae i Gymru?
  26. Pwy fethodd cic o’r smotyn tyngedfenol yn ymdrechion Cymru i gyrraed Cwpan y Byd 1994 yn y gem rhagbrofol diwethaf yn erbyn Rwmania?
  27. Mae Lee Trundle yn enw cyfarwydd iawn i cefnogwyr yng Nghymru ar ol chwarae i Rhyl, Wrecsam, Abertawe, Castell-Nedd, Llanelli, Hwlffordd ac Trefelin ond i ba glwb JD Cymru South mae’r ymosodwr yn chwarae i ar hyn o bryd?
  28. Pa glwb greodd hanes yn nhymor 2013-14, wrth iddynt fod y clwb gyntaf o drydydd haen pel-droed Cymru i gyrraedd rownd cyn-derfynol Cwpan Cymru?
  29. Fe gollodd Cymru yn erbyn pwy, pan gafwyd gadarnhad bod am gymryd rhan yn Ewro 2016 ar ol i Cyprus drechu Israel mewn gem arall yn yr un grwp?
  30. Yn Mai, 1996, o dan arweiniad Bobby Gould fe chwaraeodd Cymru gem gyfeillgar yn erbyn clwb o’r bedwaredd haen yn Lloegr, pwy oedd y clwb yna?

Leave a comment

Design a site like this with WordPress.com
Get started